; ;
connahs appeal logo connahs appeal logo

Hanes Connah

; Raised: £60.604.00
Connah on Polish TV!

Helo, fy enw i ydi Connah. \'Rwy\'n 6 oed a dwi\'n byw yng Ngronant yng Ngogledd Cymru gyda fy nain a nhaid, Debbie a Jim, a fy nhad Chris.Yn Nhachwedd 2005 fe ddechreuais deimlo yn sal a chwyno bod gen i boenau yn fy ochor oedd yn parhau dim ond am ryw ddau funud ar y tro , a hynny weithiau dim ond unwaith mewn wythnos neu fisoedd. Bum yn gweld sawl meddyg teulu a meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd fu\'n tybio mai poenau tyfu, mod i\'n chwilio am sylw, yn dioddef o wynt neu bod fy ymysgaroedd wedi rhwymo. Aeth hyn ymlaen tan Awst 2006 nes iddyn nhw ddarganfod lwmp yn fy ngwddw.

Roeddwn yn dioddef o gancr prin i blant- Niwroblastoma, sef tyfiant sy\'n datblygu mewn celloedd nerfau arbennig sy\'n rhedeg ar siap cadwyn ar gefn yr abdomen, y frest ac i\'r penglog gan ddilyn yr asgwrn cefn. Mae fy salwch yn cael ei gydnabod fel Graddfa 4 Niwroblastoma - y raddfa uchaf un ac mae\'n beryglus iawn.80 o blant y flwyddyn yn unig sy\'n dioddef o\'r cyflwr a dim ond un o bob pump sy\'n goroesi. Mae\'r prif diwmor ar draws fy abdomen ac mae rhai eraill yn fy mrest, y glandiau Lymph, yn fy mraich ac fy ysgwydd ac yn fy nwy goes uwchben y pengliniau; mae nhw hefyd yn fy esgyrn ac ym mer fy esgyrn.

\'Rydw i wedi cael triniaeth cemotherapi ers  mis Awst, ac er ei fod wedi atal tyfiant y tiwmor, \'does na ddim tystiolaeth fy mod i\'n mynd i gael fy ngwella yn llwyr. Yn anffodus , ychydig iawn o gyllid sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig i waith ymchwil i\'r clefyd. Mae hynny\'n golygu bod plant yn gorfod teithio i wledydd eraill y tu allan i\'r Gymuned Ewropeaidd i gael triniaeth pellach. Y teuluoedd a ffrindiau sy\'n gorfod talu am hyn. Mae\'r driniaeth yn yr Unol Daleithiau yn costio hyd at £250,000 am y driniaeth cyntaf yn unig.

Nod yr Apel yw darparu trinaeth imi mewn gwlad arall os nad yw\'r drinaieth yn gweithio yma. Os na fydd angen unrhwy faint o\'r arian a godir fe fydd yn cael ei gyfrannu i waith ymchwil y Ganolfan Cancr Niwroblastoma.

\'Rwy\'n gofyn am gyfraniadau i fy nghronfa ac mi fyddai\'n ddiolchgar iawn am hynny, a diolch yn fawr iawn i chi am dreulio amser yn darllen amdana\'i. Cariad mawr -

Connah xxxx


| Donate | Home | Shop | Diary | Photos | About Me | Messages | Events | Contact | Links
; ;
website donated by sypher design