Fy enw i ydi Connah Daniel Llewellyn Broom ac mi 'rydw i yn 6 oed. Fy safle i ydi hon sy'n son am fy mrwydr i yn erbyn cancr prin iawn o'r enw Niwroblastoma.
Bydd mod i chi ddilyn fy Nyddiadur ac mi fyddai'n ymdrechu i'w ddiweddaru bob dydd.
Mae gen i albwm lluniau hefyd ac mi fydd llawer o luniau ohonof i a fy nheulu a phobol eraill sy'n rhan o fy mywyd ynddo.
Mi fydd y frwydr hon yn un tymor hir iawn imi ac mi fyddai angen pob cymorth fydd ar gael imi felly cofiwch anfon negeseuon ataf i. Mi fydd rhywun yn eu darllen allan imi er mwyn fy helpu i frwydro yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn.
Ar Ben y dudalen byddwch yn gallu gweld sut i gysylltu hefo pob tudalen ar y wefan. Cofiwch mai safle newydd ydi hon ac mae angen eich negeseuon i gyd.

